Psalms 140

Gweddi ar Dduw i'm cadw'n saff

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1Achub fi, O Arglwydd, rhag pobl ddrwg.
Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiol,
2sy'n cynllwynio i wneud drwg i mi,
ac yn ymosod a chreu helynt.
3Mae ganddyn nhw dafodau miniog;
maen nhw'n brathu fel nadroedd,
ac mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau.

 Saib
4O Arglwydd, paid gadael i bobl ddrwg gael gafael ynof fi!
Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiol
sydd eisiau fy maglu i.
5Mae dynion balch yn cuddio trap i mi;
pobl lygredig yn lledu rhwydau i mi;
ac yn gosod maglau ar fy llwybr.

 Saib
6Dywedais wrth yr Arglwydd: “Ti ydy fy Nuw i.”
Gwranda, O Arglwydd, wrth i mi erfyn am drugaredd!
7O Arglwydd, Meistr, ti ydy'r un cryf sy'n achub;
ti oedd yn gysgod i mi yn y frwydr.
8O Arglwydd, paid gadael i'r rhai drwg gael eu ffordd!
Paid gadael i'w cynllwyn nhw lwyddo,
rhag iddyn nhw ymffrostio.

 Saib
9Ac am y rhai sydd o'm cwmpas i –
boed i'r pethau drwg maen nhw wedi ddweud eu llethu!
10Boed i farwor tanllyd ddisgyn arnyn nhw!
Boed iddyn nhw gael eu taflu i bydewau, byth i godi eto!
11Paid gadael i enllibwyr aros yn y tir.
Gad i ddrygioni'r dynion treisgar eu hela nhw a'u bwrw nhw i lawr.
12Dw i'n gwybod y bydd yr Arglwydd
yn gweithredu ar ran y rhai sy'n diodde.
Bydd yn sicrhau cyfiawnder i'r rhai mewn angen.
13Bydd y rhai cyfiawn yn sicr yn moli dy enw di!
Bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn aros yn dy gwmni di.
Copyright information for CYM